top of page
MicrosoftTeams-image (8).png

Fferm Solar
Alaw Môn

This is a paragraph where you can add any information you want to share with website visitors. Click here to edit the text, change the font and make it your own.

Mae’r cyfnod ymgynghori statudol o 6 wythnos ar gyfer Fferm Solar arfaethedig Alaw Môn bellach (13 Rhagfyr 2023) wedi dod i ben. Fodd bynnag, rydym yn parhau i groesawu sylwadau, trwy'r ffurflen adborth ar y wefan hon, hyd nes y cyflwynir cais am Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol.

​

Mae Enso Energy, ar ran Wylfa Green Limited, yn cynnal Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC) ymgynghori a chyhoeddusrwydd statudol ar Fferm Solar arfaethedig Alaw Môn, sef prosiect ynni adnewyddadwy a leolir i’r de o Lyn Alaw a fyddai’n cynnwys paneli solar a chyfleuster storio ynni gyda’r seilwaith, y gwaith a’r mynediad cysylltiedig. Lleolir y safle i’r gorllewin o’r B5112, 415 m i’r de o Lyn Alaw, 500 m i’r dwyrain o Lantrisant a 1.5 km i’r gorllewin o Lannerch-y-Medd, Ynys Môn.

 

Daeth rhybudd o gais arfaethedig ar gyfer Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) i law Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) ar 15 Medi 2023.

 

Yn rhinwedd ei gapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy, mae’r prosiect hwn yn cyfrif fel DNS.  Cynhelir y PAC hwn yn unol â Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd), Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 (fel y’u diwygiwyd) a Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (fel y’i diwygiwyd). Mae’r rhain yn mynnu bod y Gweinidog Cymreig yn gwneud penderfyniad ar gynlluniau DNS, gyda cheisiadau’n cael eu gwneud yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru (PEDW) yn hytrach nag i’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn un o’r ymgyngoreion allweddol yn y broses o wneud penderfyniad ar y cais cynllunio.

 

Mae gwaith tirfesur pellach ar y safle ers yr ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf ym mis Gorffennaf 2021 ac ail ymgynghoriad ym mis Gorffennaf 2023, ynghyd â’r sylwadau a ddaeth i law a mewnbynnau gan y tîm datblygu technegol, wedi arwain at wneud newidiadau yn nyluniad y cynllun.

 

Prif elfen y datblygiad yw adeiladu a gweithredu fferm solar a fyddai’n cyflenwi hyd at 160 megawat (MW) o ynni adnewyddadwy i’r Grid Cenedlaethol. Mae hyn yn cyfateb i’r galw am drydan mewn oddeutu 33,935 o gartrefi bob blwyddyn (gan ddiwallu anghenion ynni holl aelwydydd yr Ynys).

 

Bydd y cyfleuster batri storio ynni yn cyflenwi trydan i’r grid cenedlaethol ar adegau pan geir y galw mwyaf am ynni ac mae’n cyfrannu at sefydlogrwydd a diogelwch ynni. Byddai’r datblygiad yn cyfrannu at dargedau ynni adnewyddadwy a datgarboneiddio Cymru gydol ei oes weithredol o 40 mlynedd.

 

Mae’r Safle yn cynnwys oddeutu 268 hectar o dir amaethyddol, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer pori. Mae’r cynnig yn rhoi ystyriaeth i nodweddion lleol gan gynnwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Nantanog, Safle Bywyd Gwyllt Lleol Cors-y-Bol, rhywogaethau a chynefinoedd gwarchodedig, Heneb Gofrestredig tomen gladdu Oes Efydd Cors-y-Bol, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a’r Llwybr Beicio Cenedlaethol.

 

Byddwn yn defnyddio mynedfeydd presennol y fferm yn Nantanog, Chwaen Gach, Chwaen Bach a Than Rallt i gael mynediad i’r Safle yn ystod y gwaith adeiladu (disgwyliwn y bydd hyn yn para 12 mis) a phan fydd y fferm yn weithredol.

 

Defnyddir cebl tanddaearol i gysylltu’r fferm solar a’r cyfleuster batri storio ynni â’r is-orsaf yng Ngorsaf Bŵer Wylfa.

 

Hoffem weld cynifer â phosibl o bobl yn rhannu eu barn am ein cynigion fel rhan o’r PAC ymgynghori a chyhoeddusrwydd statudol hwn. Mae’r cyfnod ymgynghori yn dechrau 1 Tachwedd 2023 a bydd yn rhedeg am 6 wythnos (tan 13 Rhagfyr 2023). Caiff unrhyw ymatebion i’r ymgynghoriad a ddaw i law eu cynnwys mewn Adroddiad Ymgynghori lle ymatebir iddynt, a bydd yr Adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno gyda’r cais DNS.

 

Disgwyliwn gyflwyno’r cais ddiwedd 2023 a bydd PEDW yn ystyried y DNS yn ystod 2024. Os caiff ei gymeradwyo, bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn 2025 a bydd y cynllun yn weithredol yn 2026.

 

​

Anfonwch eich sylwadau ar e-bost i: alaw@ensoenergy.co.uk

 

Sgwrsiwch â ni ar: 01452 764 685

 

Ysgrifennwch atom yn: Enso Energy, Unit 1 & 2, Cirencester Office Park, Cirencester, GL7 6JJ

​

​

bottom of page